Byw yn Fy Nghroen

Dwi heb sgwennu blog ers dechra’ Mehefin a ma’n teimlo ‘tha ages yn ôl i ddeud gwir – ond er deud hynny, mae ‘di bod yn ddeufis bach prysur iawn rhwng bob dim yn fy mywyd bach. Un o’r rhesymau am hynny oedd cyhoeddi cyfrol ges i’r fraint o gyfrannu ati – ‘Byw yn Fy Nghroen‘. Fel un a gafodd bleser ar ôl darllen ‘Gyrru … Parhau i ddarllen Byw yn Fy Nghroen

Un Mewn Pedwar

Dwi’m yn gwbod os ‘di’r isod yn wbath creadigol neu ddim – neshi jyst sgwennu fo un bora. Sgwennu be bynnag ddaeth i’m mhen i, a gobeithio bod o’n g’neud synnwyr. ~ Dwi’n dallt. Dwi’n gwbod sut beth ydi deffro heb egni. Dwi’n gwbod sut beth ydi dyheu ca’l mynd yn ôl i baradwys trwmgwsg, lle does ‘na’m cyfrifoldeba’, problema’ na disgwyliada’. Dwi’n gwbod pa mor … Parhau i ddarllen Un Mewn Pedwar

Y Pris ‘Dan Ni’n Dalu

Profedigaeth. Yn anffodus, dio’m yn wbath fedrith rywun osgoi. Ond eto’i gyd, mae o’n dipyn o bwnc tabŵ o fewn ein cymdeithas dwi’n teimlo. Ma’n effeithio pawb, ond dewis cadw fo i ni’n hunain yda ni. ‘Nath o gymryd blynyddoedd imi allu siarad yn agored yn dilyn y profedigaeth cynta’ geshi. ‘Doni methu dirnad â’r peth. Dwi’n berson sy’n teimlo bron popeth i’r byw, a dwi dal ddim … Parhau i ddarllen Y Pris ‘Dan Ni’n Dalu