Bywyd cyn social anxiety

Dwi wastad ‘di bod yn berson swil. Ers oni’n blentyn efo mop llawn cyrls yn y Feithrinfa, hyd at fy nyddiau yn ‘rysgol gynradd – do’ni erioed yn hoff iawn o’r limelight. Ond eto’i gyd – mi *oni’n* blentyn hyderus. Dwni’m faint o weithia’ nes i gystadlu yng nghystadlaethau’r Urdd – boed hynny’n lefaru, canu, neu dawnsio disgo mewn grŵp (dwi dal yn eitha’ smug … Parhau i ddarllen Bywyd cyn social anxiety

20 cân i godi ysbryd #2

Llynedd nes i restru 20 cân oedd yn codi ‘nghalon i, ac yn codi ysbryd (fel mae’n deud yn y teitl, de). Linc:  20 cân i godi ysbryd Felly, nes i benderfynu g’neud hynny eto, a rhestru 20+ cân sy’n fy ngwneud i’n hapus, ac yn gymorth pan dwi ei angen o. Os ‘dach chi efo unrhyw argymhellion pellach, plis rhowch wbod, fyswn i’n ei gwerthfawrogi’n … Parhau i ddarllen 20 cân i godi ysbryd #2

Un Mewn Pedwar

Dwi’m yn gwbod os ‘di’r isod yn wbath creadigol neu ddim – neshi jyst sgwennu fo un bora. Sgwennu be bynnag ddaeth i’m mhen i, a gobeithio bod o’n g’neud synnwyr. ~ Dwi’n dallt. Dwi’n gwbod sut beth ydi deffro heb egni. Dwi’n gwbod sut beth ydi dyheu ca’l mynd yn ôl i baradwys trwmgwsg, lle does ‘na’m cyfrifoldeba’, problema’ na disgwyliada’. Dwi’n gwbod pa mor … Parhau i ddarllen Un Mewn Pedwar