Y cyfweliad swydd ’nes di golli cwsg amdano.
Y canlyniad siomedig ges di mewn arholiad.
Y break-up ochdi’n meddwl oedd am dy chwalu.
Y sylwadau sarhaus ’nes di orfod diodda gan fwlis.
Y galar a’r profedigaethau.
Y brwydrau cudd.
Yr holl ddyddia’ doeddat ti’m isho codi o’r gwely.
Yr holl ddyddia’ doeddat ti’m yn meddwl dy fod am allu cario ymlaen.
Hyn. A mwy. A gesha be? Ti dal i sefyll.