Nodyn i’m hun yn 15 oed

Ar fy mhenblwydd yn 25

Ma’ bod yn dy arddegau yn blydi tyff ond dal gafael achos fydd hi ddim fel’na am byth. Dros y blynyddoedd nesa’ ti am grio lot, chwerthin lot a dysgu lot. Disgyn mewn cariad a disgyn allan eto. Colli ambell ffrind ond ennill rhai newydd. G’neud lot o gamgymeriadau ond cyflwawni pethau anhygoel hefyd. Ma’na adegau anodd a gymaint o learning curves, ond ti‘n dod drwyddi.

Paid ag ama’ dy hun achos ma’ PAWB yn wingio hi! Cadwa’n driw i bwy wyt ti, dilyna dy galon a gwranda ar dy gut feeling hefyd – mae o’n beth rhyfeddol! A be bynnag ti neud – plis trysora POB UN eiliad ti’n gael efo’r rhai ti’n garu achos mae bywyd llawar rhy fyr i roi dy egni at bobl sydd ddim werth o.

(P.S Ti dal yn casáu nodwydda’ ond yn diweddu fyny efo 4 piercing, ma’ eyeliner glas chdi’n ffab, a tydi’r categori Over 25s ar yr X Factor ddim yn hen – stopia feddwl hynny!)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s