‘Bydda’n chdi dy hun. Na, dim fel’na.’

Paid bod mor loud. Paid bod mor dawel.

Ti rhy opinionated. Ti byth yn lleisio dy farn.

Paid rhegi ma’n goman. Goody two shoes ti byth yn rhegi.

Bydda’n hyderus! Gosh, ma honna’n caru’i hun gormod dydi.

Yli bach wti – cym fyrgyr. Da iawn chdi am golli pwysa’ ti’n edrych yn ffab.

Stopia fod mor high maintenance. Ti’m yn g’neud digon o ymdrech.

Pen ôl & bŵbs mawr tisho. Ond ddim rhy fawr. Waist bach. Ond curvy.

Gei di gyhyra’ ond paid â mynd yn rhy gyhyrog.

Gwisga sodla ond paid bod yn dalach nag unrhyw ddyn.

Ti’n slag os ti’n cysgu efo lot o bobl. Yn frigid os ti ddim.

Diflas os ti’m yn gwisgo colur. Yn ffals os ti’n gwisgo lot.

16 ac yn disgwl? Bechod.

‘Sa well chdi ddechra’ meddwl am blentyn wan. Ti’m isho bod yn fam hen.

Ti’m isho bod yn fam? Be sy’n bod arna chdi?

Cadwa dy fywyd yn breifat. Ti angen bod fwy agored.

Bydda’n chdi dy hun. Na, dim fel ‘na.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s