‘Nes i gofnod blog dros flwyddyn a hanner yn ôl (!) oedd yn rhestru caneuon Cymraeg sy’n codi calon – a ges i argymhellion bryd hynny felly dyma fi’n meddwl ‘maraid bod ‘na *lot* mwy dwi heb gynnwys! Ar ôl ‘neud galwad agored ar fy nhudalen blog ar Instagram, ges i atebion ffab – diolch yn fawr i chi wnaeth awgrymu cân – dwi di mwynhau gwrando arnyn nhw! Dyma ni ‘lly, yr ail restr o ganeuon:
1 . Pawb i Weld yn Iawn – Gogz
2. Safwn yn y Bwlch – Hogia’r Wyddfa
3. Adra – Gwyneth Glyn
4. Ffarwel i Langyfelach Lon – Cowbois Rhos Botwnnog
5. Deryn Du – Yws Gwynedd
6. Ysbeidiau Heulog – Super Furry Animals
7. Gyda Gwên – Catatonia
8. Mirores – Ani Glass
9. Space Invaders – Caryl Parry Jones
10. Dros Foroedd Gwyllt – Celt
11. Rebal Wicend – Bryn Fôn
12. Gorwedd Gyda’i Nerth – Eden