Y We.

Dwi yn caru pa mor ddefnyddiol ‘di social media. Dwi’n gallu rhannu pa bynnag gynnwys dwisho, hyrwyddo blogiau, gwbo pa ddigwyddiada’ sy’ mynd ‘mlaen (rhai virtual os nad dim arall..!.), cofio pryd ma’ penblwyddi pawb, siarad efo teulu/ffrindia’, rhwydweithio, cyfarfod ffrindia’ newydd lyfli, a gallu rhannu newyddion ayb. Ma’n gallu bod yn class heb amheuaeth!

Ond, o…

Tydi Instagram ddim yn gweld fi’n syllu ar yr hunlun llawn ffiltyrs dwi newydd bostio (efo camera roll llawn ar ôl tynnu dega‘ ohonyn nhw i ga’l yr un ‘iawn’) ac yn pigo allan pob un ‘flaw‘ dwi’n meddwl sydd gen i, ac yn cwestiynu pam na fedrai edrych fel y models a’r influencers ar hyd y lle.

Tydi Twitter ddim yn gweld fi’n cymharu holl agweddau ‘mywyd i efo llwyddiannau pawb dwi’n ei weld ar y sgrin.

Tydi Facebook ddim yn gweld fi’n gorwedd ar ‘ngwely ac yn gorfeddwl gymaint hyd oria’ mân y bora.

Tydi Instagram ddim yn gweld fy rhwystredigaeth pan dwi’n gweld pobl yn ‘joio byw’ pob eiliad a finna, ar ddiwrnod crap, yn teimlo’n cwbl gaeth yn fy meddwl.

Tydi Twitter ddim yn ymwybodol na gweld memes doniol ydi’r unig beth all godi gwên weithia’.

Tydi Facebook ddim yn gweld fi’n poeni’n enaid os oes’na neges wedi ei darllen ond heb ateb, a’r dirywiad yn fy hwyliau i wedyn wrth mi ddechra’ orfeddwl y rheswm. Be neshi o’i le?

Tydi’r We methu gweld salwch meddwl. Ma’r We yn gallu gweld emojis & likes.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s