Blwyddyn Newydd

Helo a how di dw – masiwr mai’r peth cynta’ dylwn i ddeud ydi Blwyddyn Newydd Dda! 🌟 (y flwyddyn ola o’r twentyteens – sgeri meri).

Dwi wastad di bod efo teimlada’ cymysg am y flwyddyn newydd. Ar un llaw dwi wir yn hoffi’r syniad o ddechra’n ffresh a cha’l llechan lân ym mis Ionawr, ond ar y llaw arall dwi’n gweld fy hun yn rhoi pwysa’ di-angen i bob dim fod yn gret, ac i ‘neud lot o newidiada’ sydyn i ‘mywyd ayb. Dwi’m yn gwbod faint sy’n cytuno efo’r hyn dwi am ddeud nesa’, ond dwi rili ddim yn ffan mawr o Nos Galan – dwi’n ffeindio bod pawb yn mynd yn OTT nostalgic (yn cynnwys fi) a bod pwysa’ uffernol i ga’l y noson orau erioed i groesawu’r flwyddyn newydd! Ac os ti ddim yn joio neu ‘di ca’l noson crap, ti’n teimlo bach yn od – diwrnod wedyn ti’n gweld llunia’ pawb ar Instagram o’r amsar ‘hollol wych’ ma’ nhw ‘di ga’l a ti’n dechra’r flwyddyn ar fflipin downer!

*Ond* er tegwch i’r flwyddyn newydd, fel ddeudis i, dwi’n hoffi meddwl bod genai 12 mis newydd o ‘mlaen i – 12 mis o herio’n hun, i mi ga’l edrych nôl arnyn nhw ar Rhagfyr 31 a meddwl ‘waw, oce dwi achsyli yn g’neud cynnydd a dwi’n eitha balch o fi’n hun’.

Ma’n hawdd ca’l eich sugno mewn gan yr holl hysbysiada gym, diets colli pwysa’, e-byst gan siopa dillad ayb a meddwl bod angen dechra’r flwyddyn fel person hollol newydd (er, ma’r sales yn wirion o isal a sgenai bron dim hunan reolaeth pan ma’n dod i hynny). Wps.

Hefyd, sidenote, dwi’n gweld dim problam efo’r dywediad ‘New year, new me’ cyn belled bod o’n golygu bod rhywun yn g’neud newidiadau cadarnhaol i’w hunain yn hytrach na troi mewn i absolwt ploncyr…

Fel bob blwyddyn ma’na ups and downs yn mynd i fod – dyna realiti bywyd. Ond dyma obeithio bydd 2️⃣0️⃣1️⃣9️⃣ yn un sydd efo llawar mwy o’r cynta’ na’r ail. Dyma ddymuno flwyddyn llwyddiannus a llawn cariad i chi gyd.

Awê. X

Advertisements

2 sylw ar “Blwyddyn Newydd

Gadael Ymateb i Arddun Rhiannon Diddymu ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s