Byw yn y foment

Dwi’n un ddrwg am ‘fyw yn y foment’. Dwi ‘di clwad y peth yn ca’l eu ddeud sawl tro a dwi yn cytuno 100%. Ella mai fy ngorbryder i ydio, ond dwi’n ffeindio’r peth yn uffernol o anodd i wneud am rhyw reswm.

Ma’na wastad wbath i boeni amdano fo, does? Ma’na wastad ddigwyddiad ‘dach chi’n nyrfys amdano ar y gweill, neu ‘di iechyd teulu ddim yn grêt, neu ma’na broblam ariannol, neu ‘dach chi’n casáu y ffordd ‘dach chi’n edrych, neu ma’ pwysau academaidd/gwaith yn drwm, neu ma’na broblam efo cariadon/ffrindia’. Ac yn y blaen.

Pan oni’n hogan fach oni isho tyfu yn hogan fawr asap. Dwi rwan yn hogan fawr sydd isho bod nôl yn hogan fach.

Pan oni’n 10 oed oni’n ysu am fod yn teenager, wedyn pan oni yn 13 oni isho bod yn y chweched dosbarth (jyst i wisgo tei a cha’l gwersi rhydd) a cha’l rhyddid fel person ifanc, wedyn pan oni’n 16 oni isho troi’n 18 a cha’l gadael ysgol a mynd allan i yfed, a phan oni’n 18 oni ‘sho bod yn settled efo swydd gyfforddus neis, tŷ ciwt, a theulu bach. (Dal yn disgw’l am y darn yna…obvs).

‘Dan ni o hyd yn meddwl y bydd petha’n well pan ‘dan ni’n cyrraedd rhyw oedran arbennig, heb sylweddoli mai’r hyn sy’n digwydd go iawn ydi ein bod ni’n pwsho fast forward ar rhai o adegau fwya’ gwerthfawr ein bywyd yn y gobaith bod popeth, un dydd, yn mynd i weithio allan heb broblem.

Ond wrth gwrs nid dyna’r gwir. Yr eiliad ‘dach chi’n sylweddoli be ‘di’r realiti – sef bod bywyd *byth* am fod yn hollol berffaith, yna ma’ch persbectif chi’n newid. Mi fydd ‘na wastad wbath i boeni yn ei gylch. Ond os ‘dan ni’n treulio’n holl amsar yn dyheu am y diwrnod fydd bob dim yn ‘berffaith’, yna cyn i ni droi mi fydda ni’n ista mewn cartra’ gofal yn meddwl i’n hunain, ‘Shit. Pam neshi ddymuno’r amser i ffwrdd pan doedd petha’ mor ddrwg a hynny?!’.

Dwi’n siwr bod y rhan fwyaf ohonom ar un adeg wedi clywed newyddion gwael am bethau annisgwyl yn digwydd ym mywydau pobl eraill a meddwl,

‘Ma bywyd llawer rhy fyr’

‘Ma angen trysori bob eiliad’

‘Rhaid gwneud y mwyaf o’r hyn ‘dan ni efo a pheidio poeni am betha’ dibwys’.

Ma’ rheiny i gyd yn wir. Ond eto, ymhen ychydig ddiwrnodau/wythnosau, ‘dan ni’n anghofio am hynny gyd, a dychwelyd i’n bybyl bach personol i boeni am ‘broblemau’ sydd reit self-absorbed a microscopic mewn cymhariaeth.

Fel ddeudis i ar y dechra’, dwi’m yn bril am fyw yn yr eiliad – dwi unai yn gorfeddwl am y gorffennol neu dwi’n meddwl ymlaen gormod. Ond ma’na rhai petha dwi ‘di glwad gan eraill wir wedi helpu, yn ogystal ag atgoffa fy hun o’r dywediadau uchod.

✨ ‘Swn i wir yn hoffi clywed sut fath o bethau ‘dach chi’n adrodd wrth eich hunain neu yn ei gofio pan ‘dach chi’n ffeindio’ch hun yn cael trafferth byw yn yr eiliad. Gadewch sylwad neu plis cysylltwch yn uniongyrchol ✨

7 sylw ar “Byw yn y foment

  1. Dwi’n cytuno hefo pob dim nes di ddeud yn hwn! Dwi’n ffeindio fy hun yn aml yn meddwl gormod am y gorffenol neu am y dyfodol ond go iawn, y peth pwysica’ ydi bod fi’n canolbwyntio ar be sy’n digwydd rwan mwy na meddwl gormod am be sy’ wedi digwydd neu be sy’n mynd i ddigwydd. Dwi’n trio meddwl llai am y petha ‘ma rwan, ma’n haws deud na gneud weithia ond so far, so good fel ma nhw’n deud. Dwi’n siwr fydd na lot yn gallu uniaethu hefo’r post ‘ma✨

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Diolch yn fawr i chdi, Elin! 🌸 Er bod o yn rili anodd weithia’, rhaid gwerthfawrogi be sydd genti yn y presennol neu fydd amser yn gwibio heibio heb i ti sylweddoli. Falch bod chdi’n gwella o ran peidio gorfeddwl ac ati! 🌟 X

      Hoffwyd gan 1 person

  2. Gallu uniaethu gymaint gyda’r sylwadau yma – ac mae’r poeni fel petai gymaint gwaeth yn oriau mân y bore bob tro. A’r poeni’n aml am bethau mân, ac am bethau nad oes modd gwneud dim amdanynt yr adeg yna beth bynnag. Wedi cael cyngor rywdro i weithio ar geisio ‘golygu’ bob diwrnod cyn cysgu – canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol ddigwyddodd yn ystod y diwrnod, hyd yn oed os y’n nhw’n bethau pitw pitw. Mae yna bethau cadarnhaol YN digwydd bob dydd, jyst ei bod hi’n aml gymaint haws gweld y pethe negyddol, siomedig. Mae gweithio ar y golygu yn bendant yn help, ond yn cymryd ychydig o ymarfer – fel popeth gwerth ei wneud mae’n siwr!

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Diolch yn fawr am y sylwad, Gwenan. 🌸 Dwi’n gweld y poeni yn wael ben bore ond hydnoed gwaeth cyn mynd i gysgu! Dyna’n union dwi wedi bod yn trio ei wneud dros y misoedd diwethaf – nodi 3 peth positif sydd wedi digwydd y diwrnod hwnnw – dim sôn o gwbl am y negatif. Meddwl bod hwnnw’n ffordd dda o ymarfer ‘mindfulness’. A cytuno! Mae o yn cymryd lot o ymarfer! X

      Hoffi

  3. Y person meddwl mlaen dwi. Dwi’m yn dueddol o boeni ryw ormod am y gorffennol, er bo fi yn gadal iddo fo fygio fi fwy na dwi’n cydnabod i mi’n hun dwi’n meddwl. Ond fi ydi’r person prysur efo cant a mil o betha i neud o hyd yn breuddwydio drwy’r amser am ddiwrnod pan fydd na lai ar fy to do ac y bydd gen i’r amser i betha neis.

    Wedi deud hynny, faswn i ddim yn fi taswn i ddim yn brysur, un fela fues i rioed. Ond heibio hynny, fy newis i ydi adio i fy to do list a masiwr na’r peth dwi’n ddeuth fy hun amlaf ydi ‘fedar hynna aros Sophie’ chos yr euogrwydd o beidio bod yn clirio petha off fy rhestr ydi’r prif beth sy’n stopio fi fyw yn y foment fel mod i ddim hyd n oed yn mwynhau fy niwrnod off pan dwi rhywsut yn manijo i adal i fin hun gal un. Dwin gweithio yn galed iawn ar y funud ar dderbyn bo fi methu cyflawni bob dim a bo na ddyddia lle nai deimlo bo fi di cyflawni prin dim er gwaetha’r ffaith bofi heb isda lawr drwr dydd. Dwi hefyd yn gweithio’n galed ar ystyried ydi fy nefnydd o amser yn effeithlon oherwydd dwi’n teimlo bod gen i berthynas wael iawn efo amser. Ond oni bai bo fin gallu fforsho fy hun weithia i dderbyn bod fory ddigon da hefyd, swni byth yn mynd i weld fy nheulu, sa gen i’m amser i gal perthynas (yn enwedig efo cariad sydd union fatha fi yn y ffor yma), sa gen i’m amser i weld plant bach fy ffrind sy’n prysur dyfu o mlaen i, nac amser i gal un peint rôl ymarfer côr (na bod yn y côr rili). Heb SÔN am amser i ddarllen, i gal dillad newydd, i ddringo mynydd neu i chwerthin am awran dros hen atgofion stiwpid neu lynia doniol.

    Ma’r anallu i fyw yn y foment wir yn broblem sydd ddim yn iach o gwbl i ni. Ti di darllen Notes on a Nervous Planet? Gan Matt Haig. Rhai bits pregethi, ond ma ganddo wir bwynt. Angen darllen o eto i sicrhau bofin cymryd o gyd mewn.

    Sori, eshi off ar un braidd! Xx

    Hoffwyd gan 1 person

    1. Diolch yn fawr am y sylwad, Sophie. Gwerthfawrogi fo gyd. ✨
      Dwi heb ddarllan llyfra’ Matt Haig ond dwi di wir bod isho ers sbel! Ti wedi darllen yr un cyntaf ganddo? Wedi clywed lot o ganmoliaeth.
      Meddwl ymlaen a phoeni / meddwl yn ôl yn difaru peidio gwerthfawrogi yr amser hwnnw ydwi.
      Dyna’r dilemz sgynai – dwi’n licio cadw’n brysur a distracted i radda’, ond yna ma’ gormod yn ca’l effaith arna i ac yn fy mlino’n feddyliol! Anodd cael y balans cywir. X

      Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s