Fel ‘nes i cyn y Nadolig (gweler Y Pethau Bychain ) dyma flog hapus cyn yr Haf yn rhestru 9 peth sy’n ymddangos yn bethau bychain, ond yn meddwl lot fawr i mi, a dylai gael eu gwerthfawrogi fwy. 😊
1. Potel dŵr poeth
Does ‘na’m byd gwell pan ‘dach chi’n oer neu efo uffar o boen yn eich bol. Clud a chyfforddus. Fatha hyg efo chi’ch hun.
2. 1 lle ar ôl yn y maes parcio
Waeth ni fod yn onast, pan ma’ hyn yn digwydd, ‘dach chi hannar yn teimlo rhyddhad ar ôl ffeindio lle, a hanner teimlo yn rili smug mai chi sy’n ca’l y lle olaf – peidiwch a gwadu.
3. Rhywun yn rhoi eu ticed parcio nhw i chi
Ma’ hyn yn digwydd tua 85% o’r amsar dwi’n mynd i brynnu ticed! Geshi’r pleser pur o roi un i gwpl ifanc am y tro cynta’ ychydig o fisoedd yn ôl hefyd. Mae o’n gesture mor neis ac yn hollol gwneud synnwyr os ‘dach chi efo oriau ar ôl ar eich ticed. Felly’r tro nesa’ ‘dach chi’n dre’ ac efo amsar yn weddill – sticiwch o ar y peiriant yn lle’i daflu fo 👍🏻
4. Rhywun yn cofio’r manylion bach amdanoch chi
Mae o jyst yn cadarnhau bod pobl *yn* gwrando arna chi, weithia’. Syml ond yn gwneud fi’n hapus hapus.
5. Cawod cynnes, ymlaciol
Y peth gora’ pan ‘dach chi’n stressed neu jyst angan rhyw 20 munud (neu fwy) i chi’ch hun. 🚿💆🏻♀️
6. Eistedd yn yr haul
Tydi hyn ddim yn digwydd yn aml yng Nghymru, felly ma’n bwysig gwneud y mwya’ ohono pan mae’r haul yn dewis dangos! Ma’na bwysa’ mawr pan ma’r haul allan i wneud wbath rili cyffrous i ga’l roi llun ar Instagram, ond wir, weithia’ ma’ jyst ista yn yr ardd a g’neud f all yr un mor neis.
7. Pyjamas a sheets gwely glân
Fel arfar yn digwydd ar nos Sul dydi – bliss. ‘Dach chi’n teimlo fatha person newydd.
8. Y teimlad ar ôl cyflawni wbath ‘dach chi wedi anwybyddu ers wythnosau.
Dwi’n un gwael am brocrastinatio, felly ma’r rhyddhad dwi’n ga’l ar ôl g’neud wbath oni fod i ‘neud oesa’ yn ôl yn teimlo’n dda. 👌🏻
9. Gwneud i bobl chwerthin (am y rhesyma’ cywir)
Pa mor neis ydi o i weld gwen ar wyneb rhywun a gwbod mai chi odd yr un roddodd o yno? 🌸