Social Anxiety.

(Dwi’m yn siwr os dio’n gweithio, ond os ydio, gwnewch yn siwr bod botwm volume eich ffôn ymlaen i wrando ar y fideo byr isod. 😊 )

Felly, dyma ni. Dyma fi’n trio gwneud synnwyr o’r cyflwr sydd wedi rheoli rhan helaeth o fy mywyd. Fydd o ddim yn bosib o gwbl i mi sôn am bob dim, mae o’n fatar cymhleth, ond mi wnai drio ‘ngora.

Mae o’n fwy na swildod. Ma’ pawb yn mynd yn shei weithia’ – y gwahaniaeth ydi bod sefyllfaeoedd cymdeithasol yn gwneud i rywun efo gorbryder cymdeithasol deimlo’n sâl yn gorfforol, ac yn gallu cymell panic attacks mewn rhai achosion.

Geshi ddim y diagnosis ffurfiol nes oni rhyw 15/16 oed, ond wrth edrych yn ôl ar fy ymddygiad cyn hynny, dwi’n gallu gweld bod y cyflwr yn bresennol pan oni mor ifanc â 12.

Un enghraifft o hyn ydi pan dwi’n cofio’r adega’ oni’n ca’l fy ngwahodd allan i siopa/sinema efo fy ffrindia’ ar y penwythnosa’, a mi fyswn i’n gwrthod yn amlach na dim. Peidiwch â cham-ddallt – oni *isho* mynd a cha’l fy nghynnwys mewn petha’, ond o’dd ‘na wbath yn codi ofn arna i – doedd o’m yn amlwg i mi ar y pryd, ond o’dd ‘na wbath yn fy nal i nôl.

Yna dwi’n cofio’r troeon lle oni yn ca’l yr hyder i fynd. Oni’n uffernol o self-conscious – os o’dd ‘na rywun yn edrych arna i am fwy nag eiliad, oni’n mynd mewn i ‘nhragen a dechra’ meddwl bo’ fi’n edrych yn wirion/hyll. ‘Sa fo’n chwara’ ar fy mrêns drw’ dydd.

Ro’dd mynd ar y bws yn brofiad daunting hefyd. O be dwi’n gofio (a heb flocio allan o’r meddwl!), ‘nath ‘na’m byd gwael ‘rioed ddigwydd ar y bws. Ond oni’n ofn. Ofn gofyn wrth y dreifar am dicad, ofn be ‘swn i’n ‘neud os fysa ‘na ddim lle i ista – ‘swn i’n gorfod gofyn i ddiethryn os gai isda efo nhw?, ac ofn bod pawb yn edrych arnai wrth i mi gamu ‘mlaen. Roedd yr holl betha’ ‘ma’n mynd rownd fy mhen i ar unwaith, ac oddo’n flinedig. Oddi’n haws peidio mynd, a pheidio gorfod delio efo fo o gwbl. Saffach adra, dydw.

Diolch byth o’dd genai ffrindia’ ‘nath byth roi gora’ arna i – o’dd hwnnw’n bryder mawr. Achos ma ‘na beryg, wrth gwrs, i chi ga’l eich anghofio amdano, a pheidio ca’l unrhyw mwy o wahoddiada i lefydd.

Y symptomau

  • ‘Dach chi wastad yn meddwl yn ôl ar y petha’ embarassing sydd ‘di digwydd i chi – gall rhain fod wedi digwydd dyddia’, misoedd, blynyddoedd yn ôl hyd yn oed, a mae o dal i chwarae ar eich meddwl
  • Mae tasgau bach i bawb arall, e.e ateb/gwneud galwadau ffon, yn dasg sydd bron yn amhosib i chi
  • Mae g’neud rhywbeth tra bod rhywun arall yn eich gwylio yn gwneud chi deimlo’n ofnadwy o bryderus
  • Pan ‘dach chi’n gwbod bod rhyw ddigwyddiad cymdeithasol ar y gweill, ‘dach chi’n teimlo’n sâl, yn cael panic attacks,
  • Ma’ cyfarfod pobl newydd yn dasg anodd iawn. Mae’r ffordd ‘dach chi’n dod drosodd yn bwysig iawn i chi, ac felly ‘dach chi’n poeni yn ormodol am yr hyn mae nhw’n feddwl ohonoch
  • Methu gwneud eye contact efo pobl oherwydd hunan-barch isel
  • Ofn mynd i lefydd ar ben eich hun heb rywun arall yno fel rhyw fath o ‘safety blanket’

*Dwi heb restru yn lythrennol pob symtom a does ‘na’m rhaid i chi fod efo pob un i fod efo social anxiety*

Sut mae o wedi effeithio fi yn bersonol

  1. Oce, so, ‘sa well gen i werthu fy enaid i’r diafol na gwneud cyflwyniad llafar. O’dd hyd yn oed clwad y geiria’ yna yn ddigon i mi droi’n mess yn ysgol. Dwi dal ddim o’r farn eu bo’ nhw’n ddull da o arholi unrhyw un – disgybl neu fyfyriwr. Yn enwedig os dio’n orfodol. Oherwydd fy mod i o dan anfantais mawr efo nghyflwr i (oni mwy neu lai yn ‘mute’ adeg arholiada’ llafar ac o’dd ‘ngwynab i’n mynd yn lythrennol numb), dwi’m yn meddwl bod o’n dêg rhoi rhywun o dan y fath bwysa’, a’u cymharu nhw efo rhywun hyderus, sydd heb y cyflwr. Dwi’n siwr bod ‘na ffordd well/fwy sensitif o arholi.

2. Mae o wedi dwyn lot fawr o gyfleon oddi wrthai. Hyd yn oed os fysa’r cyfle perffaith yn dod, ‘sa’r anxiety yn gallu darbwyllo fi i beidio cymryd o. Felly ma’n cymryd mwy o egni a gyts na’r person cyffredin i mi fynd amdani.

3. Dwi ‘di dod ar draws lot o bobl wirion yn fy mywyd. Lot o ddadleuon a thrafodaethau dwi ‘di bod isho cyfrannu atyn nhw, dadlau yn ôl yn erbyn sylwadau annifyr ac anghywir. Ond dwi heb allu gwneud hynny am y rhan helaeth o ‘mywyd, oherwydd social anxiety. ‘Swn i’n gallu bod efo wbath uffernol o bwysig i ddeud mewn stafall llawn o bobl ond fysa’r anxiety fel ‘Nope’. Ond dwi’n gweithio ar hynny, a gobeithio un diwrnod fyddai fel motormouth sydd methu stopio siarad. (jôc)

4. Dwi’n meddwl ac yn poeni fwy am be ma’ pobl yn feddwl nag oni. Pan oni’n fengach doeddwn i, yn lythrennol, ddim yn poeni dim am farn pobl erill amdanai, ‘swn i jyst yn chwerthin y peth ffwrdd neu anghofio amdana fo. Oo, be ‘swn i’n neud i gal bod fel ‘na eto!

Beth sydd wedi fy helpu i 

– Bod yn onest ydi’r peth gora’ ‘swn i’n ddeud. Mae o’n uffernol o anodd, dwi’n gwbod – yn enwedig efo pobl ‘dach chi’m yn ‘nabod yn dda iawn – ond mae o werth o yn y diwedd, dwi’n gaddo. Yn anffodus, weithia ‘dach chi bron yn lythrennol yn gorfod sillafu’r peth allan i bobl, achos tydi nhw ddim wastad yn dallt. (Er tegwch, ma hi’n anodd i ddallt wbath ‘dach chi heb brofi, ond ia, mae o dal yn rhwystredig!)

– Gall gosod targedau bach personol fod yn fudd, hefyd. Er enghraifft, os ydach chi’n nyrfys am fynd i rwla ar ben eich hun, e.e apwyntiad –  yn y cychwyn fedrwch chi ofyn i rywun agos i deithio efo chi a mynd mewn i’r ‘stafall efo chi – y tro wedyn dim ond teithio efo chi fysa nhw’n ‘neud, ac yna y tro wedyn, ceisio gwneud popeth eich hun. Camau bach. Does ‘na’m brys. A ma’ na setbacks yn mynd i fod, mae o’n rhan o unrhyw recovery – ma’n gwbl naturiol felly peidiwch a theimlo fel methiant os ‘dach chi’n ca’l wobl bach bob hyn a hyn.

Be’ sy’n anodd coelio pan ‘dach chi’n diodda’ ydi bod pobl wir ddim yn cymryd hanner gymaint o sylw a dach chi’n feddwl.

Myths

1. Dim ond pobl introverted sydd yn gallu dioddef o orbryder cymdeithasol

Ma’na rhyw stereoteip mai dim ond pobl tawal, shei ayyb sydd yn diodda’ o’r cyflwr, ond nid dyna’r achos. Fedrwch chi fod yn berson sy’n mwynhau perfformio, yn extrovert, ac ymddangos fel y person fwya’ loud ar y blaned – ond does gan anxiety ddim otch am hynny – tydi o ddim yn discriminatio (yn fy nghymraeg gora’). Felly peidiwch â chymryd yn ganiataol bod yr unigolion hyderus ddim yn diodda’, chwaith. ✌🏻

2. Dim ond efo stwff cyhoeddus ma’r cyflwr yn effeithio rhywun

Anghywir. Er enghraifft, ma’ rhai o’r symptoms yn dangos pan dwi angan atab negas ar Facebook. Tua 80% o’r amsar, dwi’n cymryd dipyn o amsar i atab achos dwi angan meddwl yn union sut dwi am atab – dwi ‘sho gwneud yn siwr ‘mod i’n dod drosodd yn oce. Ond os dwi’n cymryd dipyn i atab, dwi yna’n gor-feddwl a poeni bod pobl yn meddwl ‘mod i’n anwybyddu nhw, neu’n rŵd! Never ending cycle.

3. Mae o’n gyflwr quirky a ciwt.

Dio ffocin ddim.

4. Does ‘na ddim modd gwella ohono fo.

Oes, a dwi’n living proof o hynny. Ma’ meddwl yn ôl i sut oni, a sut ydwi wan yn anhygoel. Efo lot fawr o waith calad a dipyn o setbacks, dwi ‘di dod yn bell. Peidiwch â gadael i neb ddeud wrtha chi bod ‘na ddim modd gwella. Mae ‘na. Ac mi fedrwch chi. ✊🏻🌟

3 sylw ar “Social Anxiety.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s