Bywyd cyn social anxiety

Dwi wastad ‘di bod yn berson swil. Ers oni’n blentyn efo mop llawn cyrls yn y Feithrinfa, hyd at fy nyddiau yn ‘rysgol gynradd – do’ni erioed yn hoff iawn o’r limelight. Ond eto’i gyd – mi *oni’n* blentyn hyderus. Dwni’m faint o weithia’ nes i gystadlu yng nghystadlaethau’r Urdd – boed hynny’n lefaru, canu, neu dawnsio disgo mewn grŵp (dwi dal yn eitha’ smug mai ‘Grŵp Arddun’ oedd ein henw ni). Eshi ddim bellach na’r Sir, ond cymryd rhan sy’n bwysig efo’r Urdd, ‘de.

Oni hefyd wrth fy modd efo bod ar y llwyfan pan oedd hi’n gyfnod cynnal cyngerddau ‘Dolig a Diolchgarwch, ac oni’n cael gwefr wrth berfformio i ‘sdafell llawn – uchafbwynt yr flwyddyn, heb os. Dwi’n cofio bod yn hollol gytted ar ol perfformio am y tro olaf ym mlwyddyn 6. Trist iawn, feri sad.

Ond newidiodd popeth ym mis Medi 2007.

I unrhyw blentyn, ma’ cychwyn ysgol uwchradd yn gam mawr mewn bywyd, wrth i chi orfod setlo mewn rhywle newydd, gwneud ffrindiau newydd a dod i arfer â threfn newydd hefyd. Mae hyn oll yn dod yn haws i rai pobl na’i gilydd. Yn fy achos i, roedd o’n hunllef. Doedd genai’m grŵp agos o ffrindiau yn dod fyny efo fi felly mi oni’n be ma’ pobl yn ‘i alw’n loner.

Am wythnosa’, oni’n treulio pob egwyl ac amser cinio efo criwia’ gwahanol, pwy bynnag o’dd yn digwydd bod o gwmpas rili. Ar ben fy hun oni mewn gwirionedd. A phryd bynnag o’dd ‘na waith grŵp neu bâr angen ei wneud yn y dosbarth, oni jyst isho dianc o’r ‘stafell. O’dd pawb unai yn mynd mewn i’w cliques, neu o’dd yr athrawon yn ein gosod ni efo’n gilydd – ffocin hunlla’ byw.

Wrth i’r diwrnoda’ ac wythnosa’ fynd yn eu blaen, dechreuais i beidio mwynhau ysgol gymaint, oni’n ffeindio’n hun yn creu esgusodion dros beidio mynd – lot. Gollis i 8-9 diwrnod ar y trot un tro. Oni’n sâl. Sâl o ysgol.

Achos nid yn unig oni’n ‘loner’ – oni’n ‘loner’ o’dd yn cael ei bwlio gan sawl unigolyn. Bechgyn a merched. Pob oed. Geshi fy ngalw yn hyll, freak, sad, weird ayyb & chlwad synau ‘uuu’ wrth imi gerdded mewn i’r dosbarth. Geshi sylwada’ annifyr ar y wê. Geshi fwyd ‘di taflu arnai ddwywaith. Geshi rywun yn trio ‘maglu i ar y coridor. Y peth gwaetha’ odd y chwerthin, y gwenu wrth iddyn nhw ‘neud mi deimlo fel baw isa’r domen. Ddudis i’m byd yn ôl wrthyn nhw. Doni’m yn dallt. Doedda nhw ddim yn fy ‘nabod i – pam mai fi o’dd y targed? Be o’dd yn bod arna i?

A’th hyn ymlaen am oes, ond ‘nath yr holl beth ddim rili ‘nharo i nes imi brofi profedigaeth ‘chydig fisoedd wedyn. Oni mor isel yn dilyn hynny a neshi ddechra’ isolatio fy hun fwy. Eshi’n llai siaradus. Doni’m isho unrhyw sylw, oni jyst isho llonydd. 24/7.

Yna dechreuodd yr holl betha’ creulon gafodd ei ddeud a’i gwneud chwara’ o gwmpas yn fy mhen i ar repeat. Oni’n galaru hefyd felly o’dd stâd fy iechyd meddwl i ar chwâl, braidd.

Neshi ddechra’ coelio’r holl sylwada’ cás. Do’ni methu gwynebu edrych ar fy hun yn y drych.

‘Ti’n afiach sdi’ ‘Yli spots sgynti’ ‘Pam ti ddim mor ddel â’r genod eraill?’ ‘Ma’n gywilydd mor amhoblogaidd wti’

Na, nid y bwlis udodd hyn tro ‘ma. Ond fi. Drois i’n elyn pennaf i fi fy hun. Ac i fod yn onast, mae ‘di cymryd tan llynedd/’leni imi ddechra’ coelio’n wahanol.

Does dim amheuaeth bod y profiada’ annifyr geshi wedi ca’l effaith ddofn arnai, ac wedi bod yn reswm pam bo’ genai orbryder cymdeithasol (social anxiety) ers rhai blynyddoedd. Mi fyddai yn creu blog/ vlog yn trafod y cyflwr a’r effaith mae o wedi, ac yn cael arna i yn fuan.

Felly plis, os ‘dach chi’n dyst i unrhyw fath o fwlio – peidiwch a’i anwybyddu o. Mae’n beth mor greulon efo canlyniada’ difrifol (sydd ddim wastad yn weladwy).

Lincs defnyddiol

https://www.meiccymru.org/cym/sut-ymdopi-gyda-bwlio/

https://meddwl.org/bwlio/

https://www.childline.org.uk/info-advice/bullying-abuse-safety/types-bullying/

Rhif ffôn Childline – 0800 1111

https://www.nhs.uk/conditions/social-anxiety/

2 sylw ar “Bywyd cyn social anxiety

  1. Dwi bellach yn 50 yn briod ac un fam i 4 o blant. Gallai uniaethu hefo stori Arddun Rhiannon oherwydd roedd blynyddoedd ysgol uwchradd yn hunllef i minnau hefyd ac fe dreuliais y mwyafrif ohonynt ar fy mhen fy hun. Nath o’m fy mharo i tan i mi ddarllen y stori hon mod innau hefyd wedi dioddef rhywbeth tebyg. Nath pethau newid fymryn i mi yn y coleg ond ges i gyfnodau hir ar ol yn fanno ac ar ol gadael ar ben fy hun, dipyn o loner. Dwi wedi dioddef sylwadau sarhaus, bwlio a ,social isolation’ ar hyd fy oes ac er mod i’n gweithio mewn swydd dda erbyn hyn ac mewn priodas hapus dwi’n dal yn teimlo nad ydwi’n cael fy nerbyn yn gymdeithasol. Dwi’n byw mewn stad efo teuluoedd o mghwmpas ond does neb yn siarad a chymdeithasu efo fi. Mae’n ymddangos i mi fod yna cliques yn bob man. Diolch byth bod gin i gydweithwyr a gwaith i ddianc iddo. Yr hyn sydd wedi newid ers dyddiau anhapus ysgol ydi mod i wedi dysgu dygymod, dwi’n berson anibynnol cryf. Dwi’n anwybyddu pobl sarhaus a tynnu fi lawr ac mae hynny yn fy nhyb i yn fy ngwneud yn gryfach person. Dwi’n poeni am bobl ifanc yr oes ddigidol oherwydd dwi’n meddwl bod bosib iddyn nhw fod yn fwy unig ac ynysig heddiw oherwydd bod bwlio cymdeithasol yn dod yn fwy amlwg. Mae na ormod o bwysau a straen ar bobl ifanc heddiw oherwydd ‘social media’ a’i debyg.

    Hoffwyd gan 1 person

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s