Llynedd nes i restru 20 cân oedd yn codi ‘nghalon i, ac yn codi ysbryd (fel mae’n deud yn y teitl, de). Linc: 20 cân i godi ysbryd
Felly, nes i benderfynu g’neud hynny eto, a rhestru 20+ cân sy’n fy ngwneud i’n hapus, ac yn gymorth pan dwi ei angen o. Os ‘dach chi efo unrhyw argymhellion pellach, plis rhowch wbod, fyswn i’n ei gwerthfawrogi’n arw ac yn help mawr at y cofnod nesa’! Joiwch 🙂
- Sobin a’r Smaeliaid – Gwlad Y Rasta Gwyn
Dwi yn ffan mawr o ‘rhen Bryn, ac ma’ hon yn glasur. (Os na dachin gwylio hwn i gyd, o leia gwrandewch tan 1:46.) Reu. G’won, B.
2. Sia & Labyrinth – To Be Human
Neshi ddod ar draws y gân hon llynedd pan oni’n mynd o un gân Sia i’r llall, a dwi hefyd yn ffan o Labyrinth felly ma’r cyfuniad yma yn berffaith. Cân am beidio roi’r gorau pan mae pethau yn mynd yn anodd ydi hon, sy’n neges eithriadol o bwysig. Emosh.
3. The Jungle Book – Bare Necessities
Ma’r gan ‘ma mor ciwt! A hefyd mae o’n fy rhoi i mewn hwylia’ da yn syth, yn g’neud i mi isho dawnsio, ac yn cynnwys neges ddoeth mai’r petha’ syml sy’n dod a’r mwya’ o hapusrwydd i unigolyn.
4. Stevie Wonder – Sir Duke
Ddois i ar draws hon ar hap wrth fynd o un playlist i’r llall ar Spotify. Dwi’n dêrio chi beidio bopio’ch pen wrth wrando ar hon! O.N Ma’ Stevie Wonder yn lej x
5. Shania Twain – Man! I Feel Like A Woman!
Fedrai’m deutha chi y teimlad dw i’n ga’l pan ma’ Shania Twain yn deud ‘Let’s go girls’. CLASUR. Ma’ hon yn gân sy’ wastad yn cael ei chwara’ yn y clybia nos yn y Brifysgol, a dwi BYTH yn diflasu arni. Ma’na wbath mor empowering yn y gân ‘ma – yr alaw, y geiria’, bob dim ✊🏻
6. Beyonce – Freedom
Do’dd ‘na’m fideo swyddogol ar Youtube felly dyma berfformiad byw gan Beyonce yn canu ‘Freedom’ – ma’ hi’n cychwyn canu tua 1:45 mewn i’r fideo, gyda llaw. Yn bersonol, un o fy hoff lyric ydi: ‘Imma keep running ‘cos a winner don’t quit on themselves’. A ma’n wir dydi – tydi’r bobl llwyddiannus byth yn rhoi’r gora’ iddi.
7. James Brown – Get Up Offa That Thing
Oce, hon sydd ar ripît genai ar y funud. Os ‘dach chi’n teimlo reit isal unrhyw bryd, pwyswch play ar hon a dwi’n gaddo i chi ‘neith eich hwylia’ chi wella o leia’ rhyw fymryn. Jyst disgwyliwch tan y gytgan a gewchi ddiolch i mi wedyn.
8. Katy Perry – Roar
Ers i’r gân hon ddod allan yn 2013, dwi ‘di joio’i. Eto, mae o am ddangos i’r holl bobl sy ‘di’ch ama’ chi, eich bod chi am lwyddo, a bod ‘na werth i’ch llais.
9. Florence & The Machine – Shake It Out
Pan dwi’n gwrando ar y gân hon, dwi’n ei drin o fel cân am iselder, ond cân obeithiol ydio i mi. Dwi’n caru’r lyric ‘It’s always darkest before the dawn’. (Ond ‘mond pythefnos yn ol neshi sylweddoli mai nid ‘every demon wants his pound of fish’ o’dd un o’r lyrics)
10. Beyonce – I Was Here
Cân am wneud eich marc yn y byd ydi hon, peidio difaru, a chymryd pob cyfle ‘dach chi’n ei gael. Syml.
11. The Spice Girls – Wannabe
Dona’m bras yn yr 90au ta be!?
12. OneRepublic – I Lived
Yn debyg i ‘I Was Here’ gan Beyoncé, cân ydi hon am wneud y mwyaf o bob cyfle fel eich bod chi’n medru edrych yn ol ar eich bywyd a deud ‘Do, neshi fyw.’
13. Little Mix – Power
Ma’ caneuon Little Mix yn grêt os ‘dach chi angen temlo’n hollol empowered, a fel bod ‘na’m byd am eich rhwystro chi. Ma’ hon yn anthem.
14. Sigrid – Don’t Kill My Vibe
Dim ond ers i Sigrid ga’l ei henwi fel BBC Sound of 2018 dwi ‘di dod yn gyfarwydd efo’i chaneuon. Dwi’n caru’r gân isod yn enwedig, am ei fod o’n’ sôn am beidio gadael i bobl gerdded drosto chi, ac iddyn nhw beidio ca’l getawê efo gadael eu marc negyddol nhw ar eich bywyd chi.
15. Rusted Root – Send Me On My Way
Fydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â ffilm ‘Matilda’ yn siwr o ‘nabod y gân hon! 1 gair = crempogau.
16. Thurston Harris – Little Bitty Pretty One
Un arall o ffilm Matilda – diffiniad feel good song.
17. Dionne Warwick, Elton John, Gladys Knight & Stevie Wonder – That’s What Friends Are For
Ma’r gân hon y g’neud mi deimlo mor gynnas tu mewn. (Ma’na fersiwn legendary ohoni gan Dionne Warwick, Stevie Wonder, Whitney Houston a Luther Vandross ar Youtube, chwiliwch amdani)
18. Hogia’r Wyddfa – Safwn yn y Bwlch
Tipyn o newid byd i gymharu â’r uchod, ond wir wan, ma’r gân hon wastad yn g’neud i mi deimlo’n hapus ac angerddol…! Dwi ddim yn sori.
19. Gwibdaith Hen Fran – Coffi Du
Dwi’m yn licio yfad coffi du, ond dwi wrth fy modd efo’r gân hon amdano fo.
20. Anweledig – Dawns y Glaw
Argymhellion eraill
(Diolch yn fawr iawn i Iolo, darllenwr ’20 cân i godi ysbryd’ wnaeth argymell y caneuon isod 😊)
Queen – Don’t Stop Me Now
https://www.youtube.com/watch?v=MHi9mKq0slA
The Strokes – Someday
The Knife – Heartbeats
Mardi Gras ym Mangor Ucha’ – Sobin a’r Smaeliaid
(Dwi methu dod o hyd i’r gan ar Youtube, ond os oes gennych chi gyfrif Spotify, yna fedrwch chi wrando arni ar hwnnw)
Un sylw ar “20 cân i godi ysbryd #2”