Tudalenna’ coll y prosbectws

(Ylwch fi’n trio bod yn glyfar efo’r teitl)

Alas, unwaith eto, ma’ hi’n amser cychwyn tymor newydd sbon. Dwi, fatha nifer ohonoch chi, yn gofyn – lle uffar a’th yr Haf? Ond, mae o’n dod i derfyn, a rwan ma’ hi’n gyfnod pwysig i nifer – yn enwedig y ffreshyrs diniwad sydd ar fin darganfod sut beth ydi byw ar microwave meals, a bod nosweithia’ allan ganol w’thnos yn g’neud fwy o synnwyr nag ar wicends.

Ma’ genai pob cydymdeimlad efo’r rheiny sy’n nyrfys – dwi’n cofio sut beth odd o’n glir. Dwi’n ymwybodol bo’ genai cwpl o flogs eraill yn ymwneud â bywyd prifysgol and all that jazz, ond ma’ genai frawd bach (sy’ ddim mor fach) yn cychwyn Coleg ‘leni, ac felly mae o’n fatar sy’n chwara’ ar fy meddwl dipyn ar y funud.

Os ‘dach chi’n mynd i’r Brifysgol ac yn disgw’l treulio’ch amsar yn isda ar y gwair efo criw o bobl yn gwenu’n ffals, ma’ genai newyddion drwg i chi. Tra bod prosbectws yn gret am roi manylion bras am y cyrsiau a’r gweithgareddau/cymdeithasau di-ri sydd ar ga’l – tydi o, a fydd o byth yn adlewyrchiad go iawn o’r hyn sydd o’ch blaenau. Yn yr un modd, fedrith y blog hwn ddim paratoi neb chwaith – mae o’n fatar o orfod mynd trwyddo fo i wybod sut beth yn union ydi o.

Neshi drio meddwl am yr hyn ‘swn i ‘di ffeindio’n ddefnyddiol i ddarllan cyn oddi’n amsar i mi bacio ‘mags a mynd am y Brifysgol felly dyma cwpl o bwyntia…

– ‘Dy gyfnod di’n coleg fydd y blynyddoedd gora’ gei di’  – Tra ma’ bywyd stiwdant yn gallu bod yn brilliant ac yn boncyrs  – dwi ‘chydig bach yn wyliadwrus o bobl yn deud petha fel hyn wrth ddarpar fyfyrywyr! Pam? Wel, achos dwi’n gwbod pan oni’n flwyddyn gynta’n enwedig, ac yn teimlo bach yn overwhelmed efo’r newid byd oni’n brofi..neshi dechra’ meddwl be ar y ddaear oni’n ‘i ‘neud yn anghywir. Oni fod i fwynhau pob munud felly pam onin teimlo fel hyn? (Plys, os ydi’r uchod yn wir – be ff*c ‘di’r pwynt imi raddio wedyn…?)

– Os na ‘dach chi’n yfwr mawr, ma’ meddwl am wythnos y glas ac ati yn gallu bod yn reit frawychus, ac mae o’n medru teimlo ar brydia’ fel mai chi ‘di’r unig un sobor yn y dre’. Na phoener, tydi hynny ddim yn wir – coeliwch chi fi, ma’na fwy o bobl yn yr un gwch â chi na ‘dach chi’n feddwl. Jyst matar o ffindio nhw ydi o. Ma’na ddigon o gymdeithasa’ yn cynnig gweithgaredda’ fwy hamddenol drwy gydol yr flwyddyn, ac hydnoed ar y nosweithia’ mawr, does dim pwysa’ i yfed nes ‘dach chi’n paralytic. Ac os ‘dach chi o gwmpas pobl sy’n g’neud chi deimlo fel bod rhaid – ffeindiwch griw gwell!

– Do’s ‘na neb yn mynd i’r Brifysgol yn gwbod bob dim, mae o’n learning curve a hanner am sawl rheswm, felly peidiwch â bod ofn gofyn unrhyw gwestiwn am unrhyw beth. 🌟

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s