Colli Persbectif

Heb os, mae o’n un o ffenomenonau fwya’r 21ain ganrif, ac yn rhywbeth sydd wedi trawsnewid y byd cyfoes yn gyfan gwbl – am be dwi’n sôn, medda chi? Naci, nid Pobol y Cwm, ond y we wrth gwrs. Mae o wedi newid y ffordd ‘dan ni’n edrych ar fywyd ac anodd iawn ydi dychmygu byw hebddo erbyn hyn. Yn ôl gwefan Statista, roedd  1.91 biliwn o’r boblogaeth yn defnyddio rhyw ffurf o gyfrwng cymdeithasol yn 2014, ac mae disgwyl bydd 2.95 biliwn o bobl o amgylch y byd yn ei ddefnyddio erbyn y flwyddyn 2020. ‘Wan, ma’ hynny’n lot o selfies.

Yn gyntaf daeth MySpace, MSN a Bebo – a phrofi’n boblogaidd iawn efo pobl ifanc am nifer o flynyddoedd – dyma’r safleoedd ‘nath roi’r cyfle i lwythi o blant ysgol allu siarad gyda’i ffrindiau drwy’r nos am ddim, a rhoi’r gofod iddyn nhw gael bod yn pwy bynnag oedden nhw isho am y tro cyntaf. Ond y triawd sydd wedi gadael eu hôl ar ein cymdeithas heb amheuaeth ydi Facebook, Twitter ac Instagram. Dwi’n cofio roedd ’na adeg lle roedd y nifer o ffrindiau o’dd gennych chi ar Facebook yn ‘bwysig’, y mwya’ o ffrindia’ = y mwya’ poblogaidd oeddech chi. Roedd hyn yn arfer bod yn bwysig i mi hefyd, ond erbyn hyn, i’r gwrthwyneb ydi o  – os unrhyw beth, trio cael gwarad â chymaint o bobl a fedrai ydwi. Y ffordd dwi’n meddwl amdani ydi, os na fyswn i’n gwenu arna chi wrth basio chi ar y stryd, ‘dach chi wir ddim angen busnesu na ca’l gwbod unrhyw beth am fy mywyd i! O gwbl.

Rhywbeth arall sy’n boblogaidd i wneud ar y cyfryngau cymdeithasol ydi denu likes ar Instagram – gwefan sy’n galluogi pobl i uwchlwytho llunia’ o unrhywbeth yn y byd, a’u newid er mwyn eu gwneud yn fwy ‘diddorol’. Mae o fatha bod rhaid gwella ar bob dim, hyd yn oed golygfeydd o lefydd syfrdanol fel Yr Wyddfa – ma’r awyr yn gorfod bod yn lasach, yr eira yn wynach, y grug yn biwsach. Dwi’n cyfadda’, dwi ‘di bod yn euog o wneud hyn yn y gorffennol, ond dwi (o’r diwedd) wedi sylweddoli pa mor wirion ydi o.

Yr un capsiyna’ rhagweladwy sydd ar bob llun hefyd: e.e

  • Criw o bobl yn y Brifysgol = ‘ffrindia’ coleg, ffrindia’ oes ♥’.
  • Noson allan =  ‘Unig lun call o neithiwr/Cyn i betha’ fynd yn flêr’.
  • Emoji calon efo llun o fwyd diflas ‘nath fwy na thebyg achosi camdreuliad.
  • Llun o’r haul yn machlud = ‘Awyr mor neis heno’ ayyb (Fatha bod neb efo ffenast eu hunain).

Ond dio’m otch, nadi? Cyn belled bod pobl wedi gweld be ti ‘di ‘neud ac wedi cymryd sylw, ma’n iawn!

Ma’n rhwystredig fod popeth yn gorfod ymddangos yn berffaith ar y sgrin. Tydi cymdeithas ddim isho gweld yr ochr arall – s’gen neb ddiddordeb mewn gweld bo’ chdi’n styc mewn traffig, neu’n ca’l noson ddiflas i mewn yn gwylio Eastenders. Dwi ‘di ystyried dileu fy nghyfrifon ganwaith, a dwi wedi trio gwneud sawl tro. Ma’ ‘na deimlad eich bo’ chi’n colli allan ar rywbeth mawr pan ‘dach chi ddim ar y cyfrynga’ cymdeithasol – er bod ‘na byth ddim byd o bwys yn digwydd.

Dwi’n ca’l y teimlad weithia’ bod pobl yn postio negeseuon ar Twitter er mwyn cael sylw yn unig, nid oherwydd eu bod nhw’n credu be ma’ nhw’n ei ddeud. Tybed ydan ni i gyd yn euog o fynd i weld ffilm neu ddrama, a treulio’r cynhyrchiad cyfan yn meddwl am be ‘dan ni’n mynd i ddeud amdano ar Twitter yn syth ar ôl mynd adra? A mi rydan ni i gyd yn defnyddio yr un ystradebau yn y diwedd. Os dwi’n gweld unrhyw un arall yn galw drama yn ‘ddirdynnol’, neu ei fod o wedi ‘torri tir newydd’ – dwi ddim am fod yn gyfrifol am yr hyn dwi’n ei ‘neud! Ella fy mod i’n anghywir ac yn rhy sinicaidd fan hyn, ond dyna sut mae o’n dod drosodd i mi weithia’. Yn hytrach na gwirioneddol mwynhau ein hunain, ‘dan ni’n poeni am gael yr ongl berffaith, neu o hyd yn meddwl am be fydd pobl yn ei feddwl wrth i ni ddogfennu pob rhan o’n bywydau.

‘Dan ni’n colli golwg ar yr hyn sy’ wir yn bwysig, fel byw yn y foment, a threulio amser efo aelodau o’r teulu. Dwi’n ei weld o’n drist pan ma’ pobl yn treulio lot o amsar yn gwneud collage o lunia’ i ddathlu Sul y Mamau neu benblwydd Nain a’i roi o ar Facebook pan dydi’r aelod o’r teulu sy’n ganolbwynt i’r holl ddathlu ddim hyd yn oed ar y diawl peth!

‘Dan ni’n meddwl bo’ ni’n helpu’r achos mewn gwledydd wedi’u heffeithio gan ryfel drwy glicio’r botwm ‘like’ ar lun o ffoaduriaid, cyn scrolio lawr heb roi eiliad mwy o’n amser.

‘Dan ni’n meddwl bo’ ni’n gwneud newid chwyldroadol yn y byd drwy drydar am wleidyddiaeth i bobl sydd yn ein dilyn ni, ac sydd felly’n cefnogi’r un achos â ni yn barod. Ond cym on, waeth i chi weiddi mewn stafell wag ddim! Yr ateb i greu newid go iawn ydi i gamu ffwrdd o’r sgrin, a mynd allan i’r byd go iawn, a siarad efo pobl go iawn sy’n gwahaniaethu o’ch safbwyntiau chi, a chymdeithasu wyneb yn wyneb yn hytrach na drwy gyfnewidiadau 140 llythyren yn unig.

I feddwl faint o bŵer sydd gan wefanna’ cymdeithasol, pam ‘dan i’n eu defnyddio nhw am resyma’ mor narsisaidd? Pam ydan ni’n meddwl ei bod hi’n bwysicach deud wrth bawb ein bod ni’n hoffi hysbys ’Dolig diweddara’ ‘John Lewis’ na thrafod petha’ sy’n effeithio go iawn arnon ni?  Pam ein bod ni’n trio smalio bod ein bywydau ni i gyd yn berffaith pan ma’ na gymaint o bobl yn cael cam? Ond fedrwn ni ddim beio pobl chwaith, pan ma’ hi mor hawdd i bawb gael eu sugno i mewn i fyd mor wag ac arwynebol. Mae’n siwtio’r drefn fod pobl ddim yn meddwl gormod, ddim yn holi gormod, ddim yn mynd yn flin am betha’ go iawn, yn lle mynd yn flin bod yr act anghywir ’di ennill Britain’s Got Talent.

Peidiwch â ’ngham-ddallt i, dwi yn ddiolchgar i’r we am sawl rheswm (y blog hwn yn un ohonyn nhw), ond ar y llaw arall, ma’ ‘na beryg i ni adael i’r we ein rheoli ni os na fyddwn ni’n ofalus.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s