2016

Dwi’m yn gwbod amdana chi, ond yn bersonol ma’ 2016 ‘di bod yn flwyddyn hollol swreal. Wrth feddwl yn ôl ar y 12 mis diwethaf, dwi’n rhyfeddu ar yr hyn sydd wedi digwydd ac wedi newid – o amgylch y byd, ac yn fy mywyd i hefyd. Mae ‘di bod yn flwyddyn llawn cyferbyniadau – yn anffodus, dwi ‘di colli sawl un agos at fy nghalon eleni, ond dwi hefyd wedi dod i ‘nabod lot fawr o bobl newydd, sydd wedi newid fy mywyd i am y gora’. Chwerwfelys.

Dwi no wê am allu ffitio bob dim ddigwyddodd yn y blog hwn, ond dyma rhai o’r petha’ gafodd argraff arnai, yn ogystal â rhai profiadau personol geshi yn ystod yr flwyddyn. Dyma fy 2016 i:

Ionawr

Y ‘mis du’, ac roedd hi bendant yn teimlo felly yn dilyn y newyddion am farwolaethau cewri’r byd actio a cherddoriaeth, Alan Rickman a David Bowie, ar ddechrau’r flwyddyn.

Oni wirioneddol yn teimlo fel crio pan glywis i bod Alan Rickman wedi colli ei frwydr â chancr. Ers oni’n chwech oed, dwi ‘di bod yn ffan mawr o Harry Potter, ac oni wastad yn teimlo ofn pryd bynnag o’dd ei gymeriad, Severus Snape, yn ymddangos ar y sgrin – arwydd o actor arbennig! Yn sicr, fysa’r cyfresi ffilmiau heb fod yr un peth, nac o’r un safon, heb ei bresenoldeb.

Oni’n edmygu Bowie yn fawr hefyd. Mewn cyfnod lle o’dd angen rhywun i herio’r norm – daeth David Bowie i fod yn un o eicons yr 70au. Roedd ei ganeuon a’i steil yn sefyll allan ac yn unigryw ar y pryd – ac yn parhau i fod hyd heddiw. Dangosodd o bod na’m ffiniau i wrywdod, ac roedd yn arwr i nifer. Diolch amdano. 🙌🏻

Ar nodyn bersonol, ym mis Ionawr neshi sefyll arholiadau am y tro cynta’ ers blwyddyn a hanner, a gallu pasho nhw heb i or-bryder fy rhwystro. *Estyn y party poppers*

Chwefror

Fel ffan mawr o ‘Father Ted’, roedd hi’n ddrwg gen i glywed am farwolaeth yr actor Frank Kelly – a oedd yn chwarae rhan Father Jack yn y cyfres gomedi boblogaidd. Roedd ei ddawn amseru comedi yn ardderchog, a’r ffor’ a’th ati i sefydlu cymeriad mor gadarn – a hynny gan gofio mai dim ond dwy linell oedd ganddo i ddeud mwy neu lai – ‘Feck!’ neu ‘Drink!’.

‘Nath un o lejands mwya’ Pobol y Cwm adael yr opera sebon yn ystod y mis hwn, sef Anti Marian. Roedd hyn yn syndod i bawb, yn enwedig i mi – ffan rhif 1. Neshi ffeindio allan be o’dd wedi digwydd wrth scrolio ar Facebook, pan gafodd y plot ei sboilio gan rhywun cyn i mi ca’l cyfle i wylio’r bennod. (Ond ma’r ‘rhywun’ yna bellach yn gariad imi felly fedrai’m dal dig……)

Tydi Cwmderi ddim ‘run peth hebddoch chi, Marian. ❤️✊🏻

Mawrth

Ar ddydd Gwŷl Dewi eleni, fe benderfynodd S4C dreialu rhywbeth newydd, a rhoi is-deitlau Saesneg gorfodol ar rai o’u rhaglenni fwya’ poblogaidd. A’u rheswm dros ‘neud y ffashwn beth? I apelio at ddysgwyr Cymraeg. ‘Wan, dwi’m yn expert, ond does bosib y gall pobl sy isho is-deitla’, yn enwedig is-deitla’ Saesneg, ei troi nhw ‘mlaen eu hunain beth bynnag? Pam bod angen gorfodi pawb arall i’w diodda’ nhw, a hynny ar ddiwrnod ein nawddsant?! Ma’na hen ddigon o Saesneg gorfodol fel mae, heb sôn am ei ga’l o ar hyd ein sianel genedlaethol. Ac os cael is-deitla’ o gwbl, mi fysa cael rhai Cymraeg yn fwy fflipin’ buddiol! Dwi’n falch bod S4C wedi gweld synnwyr ac wedi rhoi’r gora’ i’r lol ‘na ddigon buan. Byth eto, plis.

Ebrill 

Trist iawn oedd clywed y newyddion am farwolaeth y bardd a’r ysgolhaig, Gwyn Thomas, ym mis Ebrill. I fod yn hollol onest, pan oni’n astudio’i gerddi yn yr ysgol fel rhan o’m cwrs Lefel A, don i’m wir wedi cymryd yr amser i’w gwerthfawrogi’n llawn – ond ers cael y cyfle i edrych arnynt â manylder yn yr Brifysgol, dwi wedi dod i sylweddoli yn union pa mor dda oedd ei grefft â geiria’. Un o’r goreuon, ac mae colled mawr ar ei ôl.

Y mis hwn, neshi gymryd rhan ym mhrosiect ‘Her Ysgrifennu’ a drefnwyd gan Theatr Gen. Cymru fel rhan o ddiwrnod ‘Cer i Greu’ BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yr her oedd i ‘sgwennu drama mewn wythnos a oedd yn 10 munud o hyd. Heb os, mi o’dd y profiad o gael actorion yn darllen ac yn recordio fy nrama – ‘Môr o Gariad’ – yn un gwerthfawr, ac wedi helpu fy hunan-hyder o ran ysgrifennu. Ma’na betha’ grêt yn digwydd pan ‘dach chi’n camu allan o’ch comfort zone, weithia’.

Mai

Cynhaliwyd etholiadau cynta’r flwyddyn – sef etholiadau’r Cynulliad. Eleni o’dd y tro cynta’ imi ymgyrchu’n wleidyddol (Un uchafbwynt o’dd cal dyn yn rhoi taflen yn y bin yr eiliad neshi roi o iddo fo…diolch, blodyn) Eniwe, digwyddodd yr etholiad, a neshi all-nighter llwyddianusond doedd ‘na’m fawr o bwynt, achos yr unig beth ‘nath rili newid o’dd bod UKIP wedi ennill seddi. Neshi golli cwsg jyst i weld twat* yn cael swydd sy’n golygu geitho ei dalu lot i leisio barn ar faterion Cymru.

*Neil Hamilton (Jyst rhag ofn bo’na rywun arall yn eich pen) Sori, ond ma’r boi yn byw yn Lloegr, ffo’ ff*c sêcs.

Hefyd y mis hwn, neshi gwblhau arholiada’ olaf yr flwyddyn gynta’. Fedrai’m deud eu bod nhw ‘di mynd cweit mor esmwyth a rhai Ionawr, gan fy mod i ‘di diodda panic attacks cyn/yn ystod eu sefyll nhw. Ond, mi neshi ddyfalbarhau, a’u pasho nhw’n gyffyrddus. *Party poppers yn dod allan unwaith eto*

Ar Fai 28, fe saethwyd gorilla yn farw ar ôl i blentyn 3 oed gamu mewn i’w loc yn Sŵ OHIO-GORILLA/Cincinnati, cyn cael ei gario a’i lusgo ganddo. Wrth ofni am fywyd y bachgen bach, fe benderfynodd y staff i ladd Harambe (y gorila) yn syth. Achosodd hyn ddadl mawr o amgylch y byd (ac ar Twitter), ac roedd sawl un yn cwestiynu os mai dyna oedd y peth gora’ i ‘neud. Yn bersonol, dwi’n meddwl mai’r peth gora’ bysa niwtraleiddio’r gorila gynta’, fel bod modd ceisio achub y ddau – ond dyna ni. Cwsg mewn hedd, Harambe bach. ✨

Mehefin 

Geshi sesh mewn hen byncer o’r Ail Ryfel Byd ym mis Mehefin. Cyd-destun: O’dd cwmni Spotify yn cynnal parti ar gyfer 250 myfyriwr ar hyd y wlad – mi oni’n lwcus i fod yn +1 i rywun. ‘Spotify Secret Social’ ydi’r enw ar y parti mawreddog hwn, lle ‘dach chi’n cal ticed, ond ‘dach chi’m yn ca’l gwbod unrhyw beth arall am y noson – dim ond y dyddiad, yr amser, a faint o’r gloch i ddal y bws efo’r teithwyr lwcus arall. Lleoliad cyffrous blwyddyn yma o’dd…..Kidderminster. Ond tydwi ddim yn cwyno, geshi fwyd, diod, llety a gweld cerddoriaeth byw efo artistiaid D-list i gyd am ddim. Profiad nyts.

Ym mis Mehefin neshi gychwyn fy mlog, a dwi mor falch fy mod i wedi. Heb os, dyma un o’r penderfyniada’ gorau dwi di ‘neud – a tydwi’m yn un am ‘neud penderfyniada’ doeth fel arfar. Ma’r sylwada’ ar ôl cyhoeddi bob cofnod wedi bod mor gefnogol, a dwi mor ddiolchgar am bob un ohonyn nhw. Odd cychwyn blog yn wbath oni ‘di bwriadu ‘neud ers misoedd, ac mae o ‘di cyrradd mwy o bobl nag oni ‘rioed ‘di meddwl. Dyma obeithio ‘wan bydd pobl dal i ddarllen yn 2017, a bo’ fi heb jinxio bob dim…

Cymaint a dwi isho, dwi methu osgoi siarad am Brexit – be bynnag ffwc mae o’n ei olygu. Fe bledleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fehefin 23 , ac…wel….does ‘na neb yn siwr iawn be sy’n digwydd ar hyn o bryd. Yn ôl sôn, mi fydd y broses o adael yn cychwyn o gwmpas fis Mawrth blwyddyn nesa’. Mae’n eitha’ amlwg i mi, mai pledlais brotest oedd hwn i nifer helaeth o bobl yn erbyn y sefydliad, a’i ffordd hen-ffasiwn, elitaidd o redeg y wlad. Digalon ofnadwy oedd clywed a gweld cymaint o hiliaeth yn yr wythnosa’ cyn ac ar ôl y refferendwm – roedd yr ymgyrch ar y ddwy ochr yn ffiaidd. Isafbwynt 2016.

Diwrnod ar ôl Brexshit, ar Fehefin 24, mi neshi droi’n 20. ‘Nai byth anghofio’r atmosffêr o’dd o gwmpas y diwrnod hwnnw – fflat, ansicr, mewn sioc. Oni’n Nghaerfyrddin/Caerdydd y diwrnod hwnnw, a’r oll oni’n gallu meddwl wrth basio pobl o ‘nghwmpas odd ‘Tybed sut ‘nath o/hi bledleisio?’ Oni hefyd yn naaacyrd ‘chos neshi aros i fyny tan 4am. Ond ia, ‘blaw hynny, geshi ddiwrnod ocê. Dechra’ rhyfedd i’m 20au.….

Y diwrnod wedyn, mewn cynhadledd ar ffeministiaeth a drefnwyd gan Plaid Cymru Ifanc ac EFA, geshi’r cyfle i gyfarfod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Do, mi neshi ffangirlio’n wirion, ac mi ymddangosodd y geek gwleidyddol sydd ynddai. Roedd hi’n dridia’ rhyfedd iawn. (Llun sleb Cymraeg rhif 1)

Gorffennaf 

Mi ‘nath llwyddiant pêl-droed Cymru yn yr Ewros godi hwylia’ pawb Haf ‘ma pan odda ni wir angen! Hyd yn oed os ‘doedda chi’m yn ffan o’r gem, roedd hi’n amhosib peidio teimlo balchder ac hapusrwydd dros garfan pêl-droed Cymru! Un peth ‘neshi rili mwynhau oedd y ffor’ cafodd yr iaith Gymraeg ei normaleiddio – roedd o mor braf a swreal gweld busnesau fel Adidas/Budweiser ayyb yn defnyddio’r iaith wrth farchnata, a chlywed rhaglenni fel ‘This Morning’ yn cael ei ddarlledu’n Gymraeg hefyd! Dwi’n teimlo fel ddaeth pawb yng Nghymru at ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn – gorau chwarae, cyd-chwarae, yn wir. 👍🏻

O, hefyd a’th Llafur dipyn bach yn boncyrs yn ystod mis Gorffennaf – ‘nath nhw ffurfio coup yn erbyn Jeremy Corbyn, nath 90% ohonyn nhw ymddiswyddo o’r front bench, oddna rwyg enfawr yn y parti, a ‘nath nhw drio ethol arweinydd newydd. Mi ‘nath nhw fethu’n rhyfeddol, a does ‘na’m byd wedi newid ar ôl hynny i gyd. Digwyddodd hyn tra ro’dd y Tories a UKIP y ca’l getawê efo mynd yn ôl ar eu gair ar gelwydda’ Brexit.

‘Sho gras.

Awst

Mis bach dawal oedd mis Awst. Ro’dd yr Eisteddfod Gen. yn y Fenni, oddo’n un llwyddianus, a geshi lun bach efo’r dyfarnwr rygbi, Nigel Owens (Llun rhif 2 efo sleb Cymraeg)

Ymm, hefyd digwyddodd yr Olympics & Paralympics yn Rio De Janeiro, ac ro’dd dŵr y pwll deifio’n wyrdd.

Medi

Dechreuais i’r ail flwyddyn yn y Brifysgol, a dwi wir wedi joio’r tymor cynta’ gymaint – mwy na ‘neshi drw’ llynedd i gyd. Mae’n wir be ma’ pawb yn ddeud, ma’ amser yn fflio pan ‘dach chi’n mwynhau – ac ma’n bwysig g’neud y mwya’ ohono fo. Ymlaen at y tymor nesa’ 🎉

Ar Fedi 12fed , daeth y newyddion tor-calonnus bod Bake Off yn gadael BBC One. Ac i ‘neud petha’n waeth, mi fydd y rhaglen yn bodoli heb Mel & Sue, a’r lejand bach ei hun, Mary Berry. 💔 Dwi’n meddwl fedra ni gyd gytuno mai Paul Hollywood fysa’n ennill ‘Neidr mwyaf 2016′ ar ôl bradychu pawb drwy arwyddo contract efo Channel 4… 🐍 Pfft.

Roedd hi’n 80 mlynedd ers llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth eleni. Braf oedd gweld gymaint yn cofio a’n nodi’r digwyddiad hwn ar y cyfrynga’ cymdeithasol. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd efo’r hanes, dyma grynodeb: https://cy.wikipedia.org/wiki/T%C3%A2n_yn_Ll%C5%B7n

Hydref

Ymysg y prif betha’ ddigwyddodd ym mis Hydref oedd y cyhoeddiad bod gwasanaeth fideo ‘Vine’ yn cau – dwi’n gytted. Dwi ‘di treulio oria’ yn gwylio cannoedd o glipiau 6 eiliad o hyd – fydd rhaid mi ffeindio ffor’ arall i ddiddanu’n hun ‘wan…..wel hynny, neu g’neud wbath defnyddiol..fel gwaith….hm.

Merch yr Eog – ‘Wan, dwi’n gwbod nad o’dd y ddrama hon at ddant bawb, a dwi’n gwbod bo’na broblema’ technegol wedi bod efo ap ‘Sibrwd’ (Neshi weld o ym Mhontio, ac oni’n helpu allan efo’r ap pan odd o’n cael ei lwyfannu’n Galeri, Caernarfon…o, ‘nai’m anghofio’r noson yna ar hast) ond dwi yn falch bod THGC wedi cymryd cyfle, ac wedi trio wbath newydd. Doedd o’m yn berffaith o bell ffordd, ond oddo’n unigryw, oddo mewn tair iaith, ac oddo’n blydi boncyrs ar adega’. Ma’ angen hynny weithia’, felly tydwi’m wir yn cytuno efo’r adolygiada o’dd mor hallt tuag ata fo.

Hefyd, ym mis Hydref, sefydlwyd gwefan ‘Meddwl’ – gwefan yn trafod iechyd meddwl drw’ gyfrwng yr Gymraeg. Dwi mor falch bod hwn yn bodoli, mae’n hen bryd bod wbath fel ‘ma ganddo ni, deud gwir. Linc: http://meddwl.org/

(Mae modd i unrhyw un gyfrannu ato, gyda llaw – felly os ‘dach chi efo stori i rannu, gwnewch ar bob cyfri achos – fel ma’ Tesco’n ddeud – every little helps)

Tachwedd

Etholiada’ America…..ughhhhhh. Dwi dal i fod mewn stâd o sioc. Dwi’m hydnoed isho wastio fy egni yn teipio’i enw fo. Oddi’n noson hanesyddol, i ddeud lleia’. A pha well ffordd i glywed y newyddion bod y diafol wedi ennill nac i glywed dy gariad yn sibrwd ‘Ffocin hel…..paid a trafferthu deffro’ am 8 y bore. Rhamant heb farw, ‘gia.

Llun rhif 3 efo sleb Cymraeg – Meic Pierce PYC – lej.

P.S Hefyd, dyma’r mis lle a’th ffôn Dafydd Wigley yn apeshit, a dechra’ trydar petha’ hollol boncyrs, ond o’ddo’n rili doniol, a rhywsut, y peth calla’ gafodd ei ddeud gan unrhyw un yn 2016 –

Rhagfyr 

Dwi am orffen ar nodyn ysgafn – ym mis Rhagfyr, cafodd Ed Miliband ei ddefnyddio fel poster boy ar gyfer y ffliw draw yn America –

Hefyd, rhoddodd aelodau’r blaid Lafur, bedair munud o adloniant pur i mi, wrth iddyn nhw recordio fersiwn….unigryw o’r sengl ‘Do They Know It’s Christmas Time?’ – a’u henw o’dd ‘National Living Rage’. (Na, go iawn.) Gwglwch o, a mwynhewch/cuddiwch tu ôl i glustog oherwydd ei fod o mor cringe worthy. Os ‘di hwn ddim yn crynhoi pa mor bizzarre oedd 2016, dwi’m yn gwbod be ‘neith.

Os ‘dach chi ‘di darllen hwn reit tan y diwadd, ‘dach chi’n haeddu medal am eich ymdrech ac amynedd. Ac ar ôl 2016, dwi’n meddwl ein bod ni gyd yn haeddu gorwedd i lawr. Mae sawl enwogion wedi ein gadael ni – actorion, llenorion, comediwyr a chyflwynwyr teledu. Cymrodd wleidyddiaeth rôl blaenllaw yn y newyddion ac ar hyd y gwefannau cymdeithasol, wrth i bobl ddechrau deffro & chymryd diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd o’u hamgylch. Gwaethygodd y sefyllfaoedd yn Syria, Yemen, a’r Dwyrain Canol, yn ogystal â’r argyfwng ffoaduriaid. Hawdd fysa colli ffydd mewn dynoliaeth ar ôl blwyddyn fel hon, ond ‘wan, mwy nag erioed, mae rhaid i ni uno ac ymladd yn erbyn yr hiliaeth a’r xenophobia amlwg sydd wedi codi i’r arwyneb yn ddiweddar.

Diolch am ddarllen – a dyma obeithio ddoith 2017 llawer *iawn* o hapusrwydd, cariad ac iechyd da i chi gyd.

X

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s