Caneuon Cymraeg i godi calon

Dros y 3 mlynedd diwetha’ dwi ‘di gwneud 3 cofnod gwahanol yn nodi caneuon sy’n codi ‘nghalon, ond neshi sylwi bod gen i brinder caneuon Cymraeg ar y rhestrau hyn. Felly, dyma fi’n mynd ati i geisio darganfod pa berlau iaith y nefoedd sy’n bodoli! Diolch i bawb awgrymodd gân pan neshi holi o gwmpas  – dwi di joio darganfod / ail ddarganfod amryw o … Parhau i ddarllen Caneuon Cymraeg i godi calon

Ochr ddu y sgrin

Mae gwefannau cymdeithasol yn gallu bod yn gret i ddal fyny efo newyddion y Byd. Yn amlach na pheidio, ma’ Twitter yn darparu’r newyddion llawer cynt na sianeli fel BBC News 24 / Sky News ayb. Mae’r storis yn dod yn gyflym, a’r ypdets yn llifo mewn bob munud. Prin fedra i orffen fy mhanad cyn bod ‘na rywbeth arall ‘di newid efo’r cachfa ma’ nhw’n ei alw’n Brexit. Dwi’n un … Parhau i ddarllen Ochr ddu y sgrin

Symud i Gaerdydd

Henffych 😊 Mae’n teimlo fel oes ers y tro dwytha i mi ‘sgwennu blog yn ymwneud â ‘mywyd personol, felly bear with os dwi’n parablu ‘mlaen yn fy nghofnod blog mis hwn! Fel mae rhai sy’n fy ‘nabod i’n bersonol yn gwbod, ‘nes i symud i fyw i Gaerdydd ar ddiwedd fis Medi ‘leni. Doedd o’m yn benderfyniad hawdd i ddeud lleia’ – gymrodd o dan ganol Awst i mi *wirioneddol* … Parhau i ddarllen Symud i Gaerdydd